Hoffech chi wneud gwahaniaeth?

Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm deinamig, cyfeillgar, gofalgar a phrofiadol. Fel ymddiriedolwr byddwch yn cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, cwrdd â phobl newydd o amrywiaeth o gefndiroedd personol a phroffesiynol gwahanol. Byddwch hefyd yn cael cipolwg llawn gwybodaeth ar yr hyn sydd ynghlwm wrth reoli elusennau ac yn ennill sgiliau gweithio o fewn rôl arweinydd.

Fel Ymddiriedolwr byddwch yn ymwneud â gosod cyfeiriad strategol y sefydliad a chefnogi Cyfarwyddwr y Gwasanaeth.

Byddwch yn defnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad i gynorthwyo’r bwrdd ymddiriedolwyr i barhau i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad mewn ffordd ddeinamig a chadarnhaol, gan sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob yn ail fis – fel arfer ar ddydd Llun am 1.30 y prynhawn.

Efallai y bydd angen i chi fod ar gael yn achlysurol y tu allan i gyfarfodydd bwrdd hefyd i ddarparu arweiniad a chyngor.

Mae ASNEW yn wasanaeth eiriolaeth annibynnol sydd yn darparu cefnogaeth eiriolaeth gyfrinachol am ddim i bobl Sir y Fflint a Wrecsam ers dros 24 mlynedd.

Rydym yn sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal a’u bod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus yn eu bywyd bob dydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr, yna ffoniwch Chris am sgwrs anffurfiol ar 01352 759332 neu e-bostiwch [email protected]

Cysylltwch â ni

Os am fwy o wybodaeth
am wasanaethau ASNEW, neu ar
gyfer ymholiadau cyffredinol ac
atgyfeiriadau,
ffoniwch neu e-bostiwch.

01352 759332  
[email protected]


Os na allwch ffonio neu e-bostio
am unrhyw reswm, gallwch
anfon neges destun atom ar
07507 207 394
i ofyn i ni gysylltu â chi.

Nid ydym yn gallu anfon neges
destun yn ôl ar hyn o bryd
(rydym yn gweithio ar hyn),

ond gallwn ffonio neu
anfon e-bost atoch.
Rhowch wybod i ni
beth fyddai orau gennych.