Polisi Preifatrwydd

Ar 25 Mai 2018, daeth un o’r newidiadau mwyaf i gyfraith preifatrwydd data’r DU i rym. Roedd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (neu’r GDPR yn fyr) yn gam cadarnhaol iawn tuag at sicrhau bod pobl yn cael mwy o reolaeth dros sut y defnyddir eu data a sut y cysylltir â nhw. Mae’r newidiadau hefyd yn helpu i ddiogelu eich data personol yn well. Rydym wedi diweddaru ein polisi preifatrwydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn. Mae ASNEW wedi ymrwymo i ddiogelu data a phrosesu data personol yn deg ac yn dryloyw, ac mae’r Polisi hwn yn nodi sut mae ASNEW yn trin data personol. Darllenwch y Polisi hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni, sut a pham rydym yn casglu ac yn storio eich data personol, eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gysylltu â ni, a sut i gysylltu ag awdurdodau goruchwyliol os hoffech roi gwybod am bryder am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol.

Pwy ydym ni

Mae ASNEW yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, cyfrinachol, rhad ac am ddim, teg a hygyrch i bobl Gogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn gweithio i'r Siarter Eiriolaeth a thrwy'r Safonau Marc Ansawdd Eiriolaeth a gadwyd yn ddiweddar.

Mae gan ASNEW statws elusennol: Elusen Gofrestredig Rhif 1110143, ac mae’n Gwmni Cyfyngedig drwy Warant Rhif 4707548 wedi’i gofrestru yng Nghymru/Lloegr 2003.

Pa ddata personol ydym yn ei gasglu?

Er mwyn i ni allu cynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi, rhaid casglu rhywfaint o wybodaeth amdanoch.

Gwybodaeth fel eich enw a chyfeiriad, eich dyddiad geni, rhifau ffôn ac unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'ch mater eiriolaeth.

Os oes gennych broblemau ynglŷn â budd-dal neu gyflogaeth, efallai y bydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnom, neu unrhyw wybodaeth arall a nodir.

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a broseswn yn gywir, yn ddigonol, yn berthnasol ac nad yw’n ormodol, a'i fod yn cael ei ddefnyddio at y diben y’i cafwyd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Er mwyn casglu’r ystadegau dienw sy’n ofynnol gan ein cyllidwyr, byddwn yn cadw’r cofnodion wedi’u diogelu yn y cwmwl am 18 mis ar ôl cau ein system rheoli gwaith achos.

Sut mae diogelu data personol?

Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod ASNEW yn diogelu eich data personol a’n bod yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau diogelwch gwybodaeth. Rydym yn gweithredu system rheoli gwaith achos storio cwmwl sy’n bwrpasol a diogel ac sy’n cydymffurfio’n llawn â GDPR, neu â gwybodaeth bapur a fydd yn cael ei chadw dan glo mewn cabinet ffeilio. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i’r rhai o fewn y sefydliad sydd ag angen gwirioneddol i wybod, ac nid ydym yn ei rannu ag unrhyw un arall oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny, neu fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Mae gennym hefyd weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Mae’r unig eithriad i’r adegau pan fyddem yn datgelu gwybodaeth rhywun yn cael ei esbonio’n llawn ym Mholisi Cyfrinachedd Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.

Eiriolaeth Statudol

Lle mae ASNEW yn darparu gwasanaethau eiriolaeth statudol sy'n ymwneud â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Ddeddf Iechyd Meddwl, mae fframwaith cyfreithiol yn ymwneud â'r gwasanaethau hyn. Yn unol â’r fframwaith hwn, ni ellir dileu gwybodaeth cleient, ac mae'n rhaid cadw’r data am chwe blynedd.

Eich hawliau

O dan y GDPR, mae gennych hawliau amrywiol mewn perthynas â’n defnydd ni o’ch data personol:

Hawl Mynediad

Mae ASNEW yn rhoi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth wrth galon popeth a wnawn.

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data personol sydd gennym amdanoch drwy gysylltu â ni drwy’r e-bost isod. Cofiwch gynnwys gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i wirio pwy ydych gyda’ch cais. Mae eich cofnodion yn eiddo i chi a gallwch ofyn am eu gweld unrhyw bryd, a gall eich eiriolwr eich cefnogi i gael mynediad at eich gwybodaeth.

Sylwch fod yna eithriadau i'r hawl hon. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael i chi pe bai, er enghraifft, darparu’r wybodaeth i chi yn datgelu data personol am berson arall, os cawn ein hatal yn gyfreithiol rhag datgelu gwybodaeth o’r fath, os nad oes sail i’ch cais, neu os yw’n ormodol.

Yr Hawl i Gywiro

Ein nod yw cadw eich data personol yn gywir ac yn gyflawn. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir isod, i roi gwybod i ni os nad yw unrhyw ran o’ch data personol yn gywir neu wedi newid, fel y gallwn gadw eich data personol yn gyfredol.

Yr Hawl i Ddileu

Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol lle, er enghraifft, nad yw bellach yn angenrheidiol at y dibenion y’i casglwyd, lle rydych yn tynnu eich caniatâd i brosesu yn ôl, lle nad oes budd cyfreithlon tra phwysig i ni barhau i brosesu eich data personol, neu lle mae wedi’i brosesu’n anghyfreithlon. Os hoffech ofyn i’ch data personol gael ei ddileu, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir isod.

Yr Hawl i Wrthwynebu

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol, er enghraifft, pan mae’n yn cael ei brosesu ar sail buddiannau cyfreithlon ac nid oes unrhyw fudd cyfreithlon tra phwysig i ni barhau i’w brosesu. Os hoffech wrthwynebu prosesu eich data personol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir isod.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol ymhellach. Mae’r hawl hon yn codi lle, er enghraifft, rydych wedi cwestiynu cywirdeb y data personol sydd gennym amdanoch ac rydym yn gwirio’r wybodaeth, rydych wedi gwrthwynebu prosesu yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon ac rydym yn ystyried a oes unrhyw fuddiannau cyfreithlon gor-redol, neu fod y prosesu’n anghyfreithlon a’ch bod yn dewis fod y data’n cael ei gyfyngu yn hytrach na’i ddileu. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir isod.

Yr Hawl i Symud eich Gwybodaeth i Ddarparwr arall

Mae gennych hawl i ofyn am eich gwybodaeth bersonol mewn fformat cyffredin neu gael ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall. Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i ofyn i rywfaint o’ch data personol gael ei ddarparu i chi, neu i reolwr data arall, mewn fformat gyffredin y gellir ei ddarllen gan beiriant. Mae’r hawl hon yn codi pan fyddwch wedi darparu eich data personol i ni, bod y prosesu’n seiliedig ar ganiatâd, a’r prosesu’n cael ei wneud drwy ddulliau awtomataidd. Os hoffech wneud cais o'r fath, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir isod.

Sylwch fod y GDPR yn nodi eithriadau i’r hawliau hyn. Os na allwn gydymffurfio â'ch cais oherwydd eithriad, byddwn yn esbonio hyn i chi yn ein hymateb.

Cwynion

Os ydych yn credu y gallai eich hawliau diogelu data fod wedi’u torri, ac nad ydym wedi gallu datrys eich pryder, gallwch gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio perthnasol neu geisio ateb drwy’r llysoedd. Ewch i https://ico.org.uk/concerns/ i gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am bryder i Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU.

Newidiadau i’r Polisi

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'n Polisi yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar ein gwefan.

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Polisi hwn, y ffordd y mae Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn prosesu data personol, neu ynghylch arfer unrhyw un o’ch hawliau, gallwch gysylltu â ni yn:

01352 759332 a gofynnwch am y Rheolwr Preifatrwydd Data
anfon e-bost at [email protected]
neu ysgrifennu atom yn ASNEW, Llawr Cyntaf, Swît 3, Tŷ Broncoed, Parc Busnes Broncoed, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, CH7 1HP.

Cysylltwch â ni

Os am fwy o wybodaeth
am wasanaethau ASNEW, neu ar
gyfer ymholiadau cyffredinol ac
atgyfeiriadau,
ffoniwch neu e-bostiwch.

01352 759332  
[email protected]


Os na allwch ffonio neu e-bostio
am unrhyw reswm, gallwch
anfon neges destun atom ar
07507 207 394
i ofyn i ni gysylltu â chi.

Nid ydym yn gallu anfon neges
destun yn ôl ar hyn o bryd
(rydym yn gweithio ar hyn),

ond gallwn ffonio neu
anfon e-bost atoch.
Rhowch wybod i ni
beth fyddai orau gennych.