Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Yn cefnogi trigolion Gogledd Ddwyrain Cymru ers y flwyddyn 2000

Rydym ni yng Ngwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn credu’n angerddol fod angen grymuso unigolion, er mwyn iddynt allu ymdopi â heriau bywyd, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Wedi’n sefydlu gydag ymrwymiad i feithrin cymdeithas gyfiawn a chynhwysol, rydym yn ymdrechu i ddarparu cefnogaeth gadarn i unrhyw un a all wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at eu hawliau ac at adnoddau.

Ein Cenhadaeth

Cenhadaeth syml ond dwys sydd gennym, sef eirioli dros hawliau a lles unigolion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn credu fod pawb yn haeddu cael eu trin ag urddas, parch, a thegwch, ac rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod aelodau ein cymuned yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn arbenigo mewn darparu ystod o wasanaethau eiriolaeth i unigolion sy'n wynebu heriau amrywiol, - yn bennaf ond heb fod yn gyfyngedig i ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae ein tîm ymroddedig o eiriolwyr profiadol wedi ymrwymo i sefyll ochr yn ochr â chi i'ch helpu i fynegi eich anghenion a'ch dewisiadau.

Ein Gwerthoedd Craidd

Mae gan ASNEW achrediad y Marc Perfformiad Ansawdd Eiriolaeth, ac rydym yn blaenoriaethu diogelwch data gydag ardystiad Cyber Essentials PLUS a chydymffurfiaeth rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR).

Cysylltwch â ni

Os am fwy o wybodaeth
am wasanaethau ASNEW, neu ar
gyfer ymholiadau cyffredinol ac
atgyfeiriadau,
ffoniwch neu e-bostiwch.

01352 759332  
[email protected]


Os na allwch ffonio neu e-bostio
am unrhyw reswm, gallwch
anfon neges destun atom ar
07507 207 394
i ofyn i ni gysylltu â chi.

Nid ydym yn gallu anfon neges
destun yn ôl ar hyn o bryd
(rydym yn gweithio ar hyn),

ond gallwn ffonio neu
anfon e-bost atoch.
Rhowch wybod i ni
beth fyddai orau gennych.